• Skip to main content
  • Skip to after header navigation
  • Skip to site footer

Free-Mail

  • Events
  • Images
    • Instagram Goodness
  • Music
  • News
  • Software

Y llawenydd o wisgo’n groes i ffasiwn traddodiadol fel Cenhedlaeth Z

Y llawenydd o wisgo’n groes i ffasiwn traddodiadol fel Cenhedlaeth Z:

Ydych chi wedi gweld bod trowsus cargo yn ffasiynol unwaith eto? Efallai eich bod yn gwisgo Crocs ar eich traed, gan fod y rhain yn c?l nawr hefyd. I lawer, gallai hyn gael ei weld fel gwisgo’n “wael” ond Y2K (ffasiwn y 2000au) yw’r ffasiwn ar hyn o bryd.

Mae ffasiwn wedi bod yn un o’r meysydd chwarae mwyaf creadigol i fynegi’ch hun ers tro, a hefyd i ddiffinio’ch hunaniaeth a’ch statws personol. Mae Cenhedlaeth Z yn cymryd hyn o ddifrif. Fodd bynnag, nid dim ond dilynwyr ffasiwn ydyn nhw. Dyma genhedlaeth sy’n anturus ac yn chwarae gyda’r ffordd maen nhw’n gwisgo ac yn mynegi eu hunain trwy eu dillad.

Mae Cenhedlaeth Z yn gwrthod popeth, o drosiadau rhyw i gynlluniau lliw penodol a’r syniad o’r corff “perffaith”.

Am gannoedd o flynyddoedd, y diwydiant ffasiwn oedd yn rheoli’r hyn a oedd yn ffasiynol. Roedd y cysylltiad gyda’r cyfryngau yn un agos, yn ogystal â theicwniaid y diwydiant. Mae’r berthynas hon wedi galluogi i dueddiadau ffasiwn i gael eu rhagweld, ac i symudiadau esthetig gael eu cynllunio a darparu ar gyfer defnyddwyr.

Mae’r berthynas hon bellach yn cael ei chwalu gan genhedlaeth o frodorion digidol sy’n byw mewn byd lle mae’r gwahaniaeth rhwng y digidol a’r corfforol yn gymysg.

Does neb yn mynd i orfodi Cenhedlaeth Z beth i’w wneud. Dydyn nhw ddim pryderu am fod yn ffasiynol. Ar y cyfryngau cymdeithasol, nhw sy’n creu eu tueddiadau eu hunain, a hynny drwy dorri rheolau, bod yn greadigol a dod o hyd i hapusrwydd wrth wisgo’n ddewr.

Democrateiddio ffasiwn

Mae pob cenhedlaeth wedi newid ffasiwn. Daeth y “baby boomers” â “flower power” i ni yn y 1960au a’r 1970au, gan ddefnyddio cariad rhydd. Roedd hyn yn wahanol i rolau cymdeithasol a rhywedd amlwg eu rhieni.

Daeth brodyr a chwiorydd iau y “boomers” â phync i ni yn y 1970au a’r 1980au, yn ogystal â isddiwylliant oedd yn defnyddio symbolau’r wladwriaeth yn erbyn ei hun a chwarae’n fwriadol gyda beth oedd yn anweddus a ddi-chwaeth. Roedd hyn yng nghanol awyrgylch wleidyddol fyd-eang o geidwadaeth a gormes.

Yna eto yn y 1990au daeth grunge, sef ymateb Cenhedlaeth X i fyd heb ddyfodol ar ôl y rhyfel oer.

Wel, mae Cenhedlaeth X wedi cael plant bellach. Mae’r plant hynny wedi penderfynu eu bod yn teimlo’n hapus wrth wisgo y tu allan i’r rheolau (fel petai). Gallwch chi fod yn unrhyw beth, gallwch chi fod yn bopeth a gallwch chi fod yn ddim byd o gwbl.

Mae Cenhedlaeth Z (a hyd yn oed y mileniaid) wedi gweld ffasiwn yn cael ei ddemocrateiddio, fesul y cyfryngau cymdeithasol a chyrhaeddiad byd-eang llwyfannau ar-lein. Maen nhw wedi gweld miloedd o isddiwylliannau bach yn cael eu ffurfio ar-lein lle mae yna gylchrediad o esblygu, ffrwydro a diwygio.

Cymerwch “emos” y 2000au cynnar. Unwaith yn isddiwylliant mawr, cafodd ei wthio i gorneli’r wê lle roedd pawb yn meddwl y byddai’n darfod a thrigo.

Ond mae emo wedi cael ei adfywio, gyda phobl yn gwisgo du, corsets yn dod yn c?l unwaith eto a cholur llygaid trwm yn cael ei ddefnyddio gan aelodau o Genhedlaeth Z fel Willow Smith ac Olivia Rodrigo.

Ond dydy Cenhedlaeth Z ddim yn glynu at un arddull chwaith. Mae ffasiwn wedi troi’n gymysgedd o dueddiadau a syniadau lle gall unigolyn ddefnyddio’r cynhwysion i greu ac ail-greu hunaniaeth drosodd a throsodd. Llawenydd sydd mewn gwisgo, nid ofn. Does dim rheolau.

Dim rheolau

Wrth i ddefnyddwyr ffasiwn newydd ailddyfeisio syniadau o beth sy’n hardd ac yn chwaethus, mae’r effaith draddodiadol ar dueddiadau wedi’i disodli gan fwrlwm o ffynonellau newydd sy’n diffinio beth sy’n newydd a’r hyn sy’n dod nesaf. O Instagramwyr i eiconau, flogwyr a TikTokwyr, mae’r ffynonellau ar gyfer tueddiadau yn eang ac yn amrywiol.

Mae pobl ifanc yn creu lle ar gyfer eu hunain mewn byd newydd. Dyma fyd lle mae’r syniad o fod yn “ffasiynol” yn llygad y gwyliwr. Boxers fel penwisg neu legins fel sgarff? Pam lai. Beth am hyd yn oed wisgo bysellfwrdd fel top? Mae uchafiaeth yn mynd i eithafion newydd wrth i ddillad gael eu haenu dros fwy o ddillad. Does dim lliw, gwrthrych na phatrwm y tu hwnt i’r posibiliadau.

Plant COVID yw’r rhain, cenhedlaeth a dyfodd i fyny yn ystod trychineb byd-eang lle yr unig fath o gyfathrebu oedd ar gael oedd cyfathrebu digidol a dau ddimensiwn.

Y wisg gryfaf a mwyaf beiddgar a gwallgof yw’r un a fydd yn cael y sylw mwyaf ar y sgrin. I blant sydd wedi arfer blasu’r cyfryngau fesul TikTok yn hytrach nag erthyglau golygyddol sgleiniog, dim ond y rhai mwyaf dramatig, hwyliog a chwareus fydd yn gwneud y tro.

Mae’r byd ffasiwn wedi cymryd ei hunan yn llawer rhy ddifrifol am gyfnod rhy hir. Yr hyn sydd ei angen nawr yw glanhad gan bobl ifanc, greadigol. Dylem i gyd ddilyn eu hesiampl a chael llawenydd wrth wisgo beth bynnag a fynnwn.

The Conversation

The authors do not work for, consult, own shares in or receive funding from any company or organisation that would benefit from this article, and have disclosed no relevant affiliations beyond their academic appointment.

: The Conversation – Articles (UK)

Have you tried: Travelling to South Africa?

Share this:

  • Share on Facebook (Opens in new window) Facebook
  • Share on X (Opens in new window) X
  • Share on Pinterest (Opens in new window) Pinterest
  • Email a link to a friend (Opens in new window) Email
  • More
  • Share on Tumblr (Opens in new window) Tumblr
  • Print (Opens in new window) Print
  • Share on LinkedIn (Opens in new window) LinkedIn
  • Share on Reddit (Opens in new window) Reddit
Published on 19 May 2023 by Alan Category: NewsTag: Cenhedlaeth, ffasiwn, groes, llawenydd, traddodiadol, wisgo'n

December 31, 2020 (Thursday) Ice Skating

December 31, 2020 (Thursday) Ice Skating – a Sport interest event taking place on 2020-12-31 …

Read moreDecember 31, 2020 (Thursday) Ice Skating

Legitt AI Unveils Legitt eSign: The Next Generation in Electronic Signature Technology

San Francisco, CA – [22/08/2024] – Legitt AI, a leading innovator in AI-driven contract management …

Read moreLegitt AI Unveils Legitt eSign: The Next Generation in Electronic Signature Technology

Fitstop Power Players 2019

Fitstop Power Players 2019 – a Sport interest event taking place on 2019-12-07 14:30:00 in …

Read moreFitstop Power Players 2019

About Alan

Previous Post:How the Manchester Arena attack showed that altruism is human instinct
Next Post:International Booker Prize 2023: our experts review the six shortlisted books

Reach Trust

Reach Trust is a holding trust for a number of companies within the Stratlec Group.

Copyright © 2026 · Free-Mail · All Rights Reserved · Powered by Straton Electrical

Back to top